Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi crebachu ym mis Tachwedd, a hynny ar ôl cyfnod anodd yn y sector gweithgynhyrchu, yn ôl ffigurau swyddogol.

Roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) wedi gostwng 0.3% ym mis Tachwedd y llynedd, ar ôl dangos cynnydd yn ystod y ddeufis blaenorol, yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd yr economi wedi tyfu ychydig yn y tri mis rhwng mis Medi a mis Tachwedd gan berfformio yn well na’r disgwyl ym mis Medi a Hydref.