Mae grant o £36m gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod yn “gwneud gwahaniaeth go iawn” i ysgolion ledled Cymru, yn ôl adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw  (Ionawr 13).

Ers lansio’r grant ym mis Ebrill 2017, mae’r adroddiad yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod.

Mae’r polisi’n targedu’r ysgolion a fyddai’n elwa fwyaf o gael dosbarthiadau llai, megis ysgolion â lefelau uchel o amddifadedd neu anghenion dysgu ychwanegol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod 388 o ddosbarthiadau babanod wedi elwa ar y polisi, gyda 770 dysgwr yn ychwanegol mewn dosbarthiadau o lai nag 20, a 2,592 yn llai o ddysgwyr mewn dosbarthiadau o 29 a throsodd.

Roedd lleihau maint dosbarthiadau babanod yn rhan allweddol o’r cytundeb rhwng Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phrif Weinidog Cymru.

“Gwahaniaeth aruthrol”

Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn Ysgol Gynradd Penyrheol yn Abertawe ar   ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad. Mae’r ysgol wedi elwa drwy gael dau athro ychwanegol, dau gynorthwyydd addysg a £162,812 o gyllid cyfalaf ar gyfer ystafelloedd dosbarth ychwanegol.

Maint dosbarthiadau babanod yr ysgol erbyn hyn yw 23 ar gyfartaledd.

Dywedodd Kirsty Williams: “Dw i eisiau i athrawon gael amser i addysgu ac i blant gael lle i ddysgu a dyma pam dw i wedi ymroi i leihau maint dosbarthiadau yn ein hysgolion.

“Mae lleihau llwyth gwaith athrawon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru – mae dosbarthiadau llai o faint yn ysgafnhau’r baich ac ar yr un pryd yn cynyddu’r amser y gall athrawon ei dreulio â disgyblion ac yn gwella ansawdd yr amser hwnnw.”

Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Gynradd Penyrheol, Alison Williams:

“Mae’r cyllid ychwanegol a roddwyd gan y Gweinidog Addysg wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r plant yn Ysgol Gynradd Penyrheol.