Mae dynes a dau o blant wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn yr hyn mae’r heddlu yn Luton yn ei ystyried yn dân bwriadol mewn bloc o fflatiau.

Mae’r ddynes ac un o’r plant yn dal yn yr ysbyty ac yn cael eu trin am anafiadau difrifol o ganlyniad i’r mwg.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 6.30 neithiwr (nos Wener, Ionawr 3) yn dilyn adroddiadau bod tân mewn cyntedd ar y pedwerydd llawr ar ddeg.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.