Mae protest wedi’i threfnu yn Downing Street yn Llundain yn erbyn rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Mae’r trefnydd Lindsey German yn dweud bod rhyfel wedi bod yn bosibilrwydd cryf “ers cryn amser bellach” o ganlyniad i Donald Trump yn cefnu ar gytundeb niwclear Iran a gosod sancsiynau.
Fe ddaw ar ôl i un o brif swyddogion lluoedd arfog Iran gael ei ladd mewn cyrchoedd awyr gan yr Unol Daleithiau yn Iran.
Dywed y protestwyr nad ydyn nhw am weld Trydydd Rhyfel Byd.