Ddylai neb deithio i Iran oni bai bod rhaid, meddai’r awdurdodau yn sgil yr helynt yn y wlad yn dilyn cyrchoedd awyr gan yr Unol Daleithiau.

Ddylai neb deithio i Irac ychwaith, oni bai am deithio angenrheidiol i ardal Cwrdistan y wlad.

Daw’r cyngor ar ôl i’r Unol Daleithiau ddanfon 3,000 o filwyr ychwanegol yno ar ôl i Qassem Soleimani, un o brif swyddogion milwrol Iran, gael ei ladd.

Fe fu protestiadau yn Baghdad, wrth i brotestwyr floeddio “marwolaeth i America”.

Mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu’n gyflym mewn gwledydd fel Affganistan, Israel, Libanus a gwledydd eraill y Dwyrain Canol.

Dywed Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor Prydain, mai’r flaenoriaeth i’r llywodraeth yw sicrhau bod pobol yn ddiogel.