Mae rhannau o draffordd M1 ynghau rhwng Flitwick a Milton Keynes yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng dwy lori.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 6.40 fore heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 4).

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i gadw draw o’r ardal ac mae disgwyl i’r ffordd fod ynghau am rai oriau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae sawl ambiwlans yn ymateb i’r digwyddiad.