Mae Heddlu Swydd Derby yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn a dynes yn Swydd Derby.

Cawson nhw eu galw i eiddo yn Duffield, lle daethon nhw o hyd i’w cyrff.

Cafodd dyn 39 oed ei arestio yn y fan a’r lle ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall.

Dydy’r ddau ddim wedi cael eu hadnabod hyd yn hyn, ond mae eu teulu wedi cael gwybod ac mae’r ardal leol ynghau am y tro.