Mae dyn 18 oed ar gefn beic sgramblo,  wedi marw ar ol bod mewn gwrthdrawiad â char yn ardal Lerpwl neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 23).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ochrau gorsaf drenau West Allerton tua 8.40yh.

Y gred ydi fod y beic modur wedi’i ddwyn, a’i fod yn teithio gydag un arall pan fu mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd VW Tiguan a oedd yn cario dau o blant, 9 a 11 oed.

Yn ol tystion, doedd yr un o’r beiciau â’u goleuadau ymlaen.

Roedd dau ddyn 18 oed a oedd yn teithio ar y beic cyntaf wedi’u hanafu’n wael, ,ac wedi’u cludo i’r ysbyty. Mae heddlu wedi cadarnhau fod un o’r rheiny wedi marw, a bod y llall yn dal i dderbyn triniaeth ac mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.