Mae saith chwaraewr pel-droed o Eritrea wedi diflannu ar ddiwedd twrnament yn Uganda.

Mae llefarydd ar ran y corff sy’n trefnu’r Cecafa Senior Challenge Cup, yn dweud fod yr heddlu’n parhau i chwilio am yr athletwyr.

Y gred ydi fod y chwaraewyr wedi defnyddio’r gemau i ddianc o Eritrea, y mae ei llywodraeth dan yr arlywydd Isaias Afwerki wedi cael ei disgrifio fel un sy’n amharchu hawliau dynol a gyda’r mwyaf caeth yn y byd i gyd.

Fe wnaeth pedwar o chwaraewyr tim dan-20 Eritrea gais am loches yn Uganada ym mis Hydref eleni.

Mae nifer o bobol yn ffoi o’r wlad er mwyn osgoi gorfod gwneud gwasanaeth milwrol gorfodol.