Mae prif hyfforddwr rhanbarth rygbi y Scarlets wedi cyhoeddi ei fod yn gadael – er mwyn dychwelyd i Seland Newydd.

Fe gafodd Bradley Mooar ei benodi ar ddechrau’r tymor hwn i olynu Wayne Pivac, wrth i hwnnw gymryd drosodd gan Warren Gatland yn brif hyfforddwr Cymru.

Ond fe fydd yn gadael ar ddiwedd ei dymor cyntaf, ac yn dod y rhan o dim hyfforddi y Crysau Duon, yn canolbwyntio’n arbennig ar yr ymosod.

Oherwydd ei fod yn torri ei gytundeb trwy adael yn gynnar, fe fydd y Scarlets yn cael iawndal.

“Dydi’r cyfle i fod yn rhan o dim  hyfforddi eich gwlad eich hun ddim yn dod i’ch rhan yn aml,” meddai Bradley Mooar.