Mae dyn arall wedi marw ar ôl cael ei drywanu ar strydoedd Llundain, gan ddod â’r cyfanswm i saith o fewn wythnos.
Cafodd y diweddaraf ei drywanu yn Newham yn oriau mân y bore.
Daw hyn ar ôl i dri dyn farw o fewn oriau i’w gilydd mewn tri ymosodiad ar wahân ddydd Iau. Fe fu farw dyn arall ddydd Mawrth ddeuddydd ar ôl cael ei drywanu yn Croydon, a chafodd dau ddyn eu lladd nos Sadwrn diwethaf hefyd.
Mae Heddlu Llundain wedi ymchwilio i 140 o achosion o ddynladdiad neu lofruddiaeth eleni, o gymharu â 135 yn 2018.