Mae rhagor o bobl wedi cael eu lladd mewn helyntion yng ngogledd India, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau mewn protestiadau yn erbyn deddf dinasyddiaeth newydd i 17.
Mae’r heddlu wedi bod yn ymladd yn erbyn miloedd o brotestwyr sy’n dweud y bydd y ddeddf newydd yn gwahaniaethu yn erbyn Mwslimiaid.
Dyma’r gwrthwynebiad mwyaf sydd wedi wynebu’r prif weinidog Narendra Modi, sy’n cael ei ystyried fel cenedlaetholwr Hindwaidd, ers iddo gael ei ethol yn 2014.
Mae’r gyfraith yn caniatáu i Hindwiaid, Cristnogion a lleiafrifoedd crefyddol eraill sydd yn India yn anghyfreithlon ddod yn ddinasyddion os ydyn nhw wedi cael eu herlid yn Bangladesh, Pacistan ac Afghanistan, lle mae Mwslimiaid yn y mwyafrif. Nid yw’r rhoi cydnabyddiaeth gyfatebol i Fwslimiaid, ac mae’r llywodraeth yn cael eu cyhuddo o anwybyddu’r 200 miliwn o Fwslimiaid yn y wlad.