Mae dwy long fordeithiau wedi taro yn erbyn ei gilydd ym mhorthladd Cozumel ym Mecsico, gan ddifrodi o leiaf un o’r llongau ac achosi mân anafiadau i chwech o deithwyr.
Mae’r ddwy long yn cael eu rhedeg gan Carnival Cruise Line ac yn gallu cludo dros 2,000 o deithwyr yr un.