Roedd y defnydd o ynnau Taser gan luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed y llynedd, yn ôl ffigurau newydd.

Cafodd y gynnau eu tanio 2,500 gwaith rhwng Ebrill 1 2018 a Mawrth 31 2019 – credir mai dyma’r nifer uchaf erioed i gael eu cofnodi.

Roedd Tasers, sy’n rhoi sioc drydanol, wedi cael eu defnyddio mewn 23,000 o ddigwyddiadau yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Mawrth, yn ôl y Swyddfa Gartref. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd y gynnau Taser wedi cael eu hanelu at berson ond heb eu tanio.

Mae’r ffigwr yma wedi cynyddu mwy na thraean yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018, a dwywaith y ffigwr yn 2016.

Mae’r Swyddfa Gartref yn darparu cyllid er mwyn  caniatáu i 10,000 ychwanegol o swyddogion yr heddlu i gario gynnau Taser.

Cafodd yr arfau eu treialu gan luoedd yr heddlu yng ngwledydd Prydain yn 2003 a chafodd pob llu heddlu gynnau Taser erbyn 2013.