Mae dyn 52 oed wedi cael ei gyhuddo dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol ar ddyn arall yn Aberaman ddechrau’r wythnos.
Mae dyn 26 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn Commerce Place, Aberaman tua 8.50yh Nos Lun, Rhagfyr 16.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles ac mae’n parhau mewn cyflwr sy’n bygwth ei fywyd, meddai Heddlu’r De.
Fe fydd Andrew John Davies o Aberaman yn mynd gerbron Ynadon Merthyr heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 20).
Dywed Heddlu’r De bod teulu’r dyn yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol ar hyn o bryd ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae’r ymchwiliad yn parhau ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sydd a gwybodaeth I gysylltu a nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod *462182 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.