Mae gyrrwr lori sbwriel a darodd chwech o bobol a’u lladd yn Glasgow bum mlynedd yn ôl wedi ymddiheuro eto am y digwyddiad.

Collodd Harry Clarke, 62, reolaeth ar y cerbyd ddyddiau cyn y Nadolig yn 2014.

Mae’n dweud nad oes yna’r “un diwrnod” pan nad yw’n meddwl am y digwyddiad a’r rhai a fu farw – Jack Sweeney 68) ei wraig Lorraine Sweeney (69), a’u hwyres Erin McQuade (18), Stephenie Tait (29), Jacqueline Morton (51) a Gillian Ewing (52).

Cafodd ei feirniadu mewn ymchwiliad am fethu â datgelu manylion am ei iechyd a wnaeth iddo golli ymwybyddiaeth wrth y llyw ar Ragfyr 22, 2014.

“Dw i’n torri fy nghalon ynghylch yr hyn ddigwyddodd,” meddai wrth y Mail on Sunday.

“Mae yna nifer o bobol, druan â nhw, nad ydyn nhw yma bellach a nifer a gafodd eu hanafu.

“Mae awgrym nad ydw i’n poeni am yr hyn ddigwyddodd.

“Does yna’r un diwrnod pan nad ydw i’n meddwl am y peth.

“Mae’n flin gen i am fy rhan i yn y digwyddiad yn 2014. Damwain oedd hi.

“Os oeddwn i’n meddwl am eiliad mai fy mai i oedd e, byddwn i’n neidio oddi ar bont.”

Beth ddigwyddodd?

Cafodd chwech o bobol eu lladd a 15 eu hanafu pan gollodd Harry Clarke reolaeth ar gerbyd sbwriel y cyngor.

Aeth y cerbyd i fyny ar balmant cyn taro gwesty yng nghanol y ddinas.

Fe ddigwyddodd y cyfan o fewn 19 eiliad.

Dywedodd nifer o dystion yn ystod y gwrandawiad iddyn nhw weld y gyrrwr yn anymwybodol wrth y llyw.

Mae ganddo fe nifer o gyflyrau iechyd ers degawdau.

Clywodd y gwrandawiad iddo fynd yn anymwybodol wrth yrru bws yn 2010, ond wnaeth e ddim dweud wrth y DVLA na’i gyflogwr am ei gyflwr.