Mae 80% o bobol yng ngwledydd Prydain o blaid rhoi’r hawl i academyddion fyw yng ngwledydd Prydain – ond mae’r rhan fwyaf yn credu bod eu sgiliau’n bwysicach na lefel eu cyflogau.
Dywed 80% o’r bobol wnaeth ateb y pôl gan Brifysgolion y DU y dylai gwyddonwyr, academyddion a staff cynorthwyol gael aros.
Ond dywedodd 87% fod sgiliau o safon uchel yn bwysig, gyda dim ond 3% yn nodi bod cyflogau uchel yn bwysig.
Nododd 69% fod angen system bwyntiau ar gyfer mewnfudo sy’n galluogi academyddion, gwyddonwyr a staff cynorthwyol i sgorio’n uchel.
Cafodd 4,042 o oedolion o wledydd Prydain eu holi fel rhan o’r pôl rhwng Tachwedd 22 a 26.
Gostwng trothwy
Mae Alistair Jarvis, prif weithredwr Prifysgolion y DU yn galw am ostwng trothwy’r cyflog ar gyfer gweithwyr o dramor o £30,000 i £21,000 fel bod ystod ehangach o weithwyr yn cael aros yng ngwledydd Prydain.
“Mae’r pôl hwn yn dangos pa mor gryf yw teimladau pobol Prydain y dylid croesawu mewnfudwyr i’r wlad ar sail eu sgiliau a’u potensial yn hytrach na wynebu system sy’n eu barnu ar sail eu hincwm,” meddai.
“Mae hyn yn hanfodol er mwyn i’r Deyrnas Unedig gael arwain y ffordd o ran ymchwil ac addysg.”