Mae ffigurau wedi cael eu cyhoeddi sy’n egluro tranc cwmni Mothercare cyn iddo fynd i ddwylo’r gweinyddwyr fis diwethaf.
Cwympodd gwerthiant y cwmni’n sylweddol yn ystod ei chwe mis diwethaf.
Roedd gwerthiant tebyg at ei debyg i lawr 2%, o’i gymharu ag 11.1% yn y cyfnod cyfatebol y llynedd.
Roedd gwerthiant ar-lein y cwmni i lawr 13% o gymharu ffigurau blynyddol, tra bod gwerthiant ar y cyfan i lawr 19.2%.
Roedd gan y cwmni golledion cyn treth o £12.2m, o’i gymharu ag £19m y llynedd.