Mae Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern, wedi cadarnhau bod dinasyddion o wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd ar goll neu wedi’u hanafu ar ol i losgfynydd ffrwydro ar Ynys Wen.
Roedd dinasyddion o Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau, Tsieina a Malaysia hefyd ymhlith yr ymwelwyr ar yr ynys.
Cafodd pump o bobol eu lladd a mwy na 30 eu hanafu pan ffrwydrodd y llosgfynydd yn gynharach heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9). Mae rhai o’r bobol gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.
Roedd 47 o bobol wedi teithio i’r ynys heddiw, meddai Jacinda Ardern. Yn ogystal a’r pump fu farw, mae wyth o bobol yn dal ar goll – mae dinesydd o wledydd Prydain yn eu plith.
Ar hyn o bryd mae’n rhy beryglus i dimau achub fynd yn agos at y llosgfynydd ond mae timau sydd wedi hedfan dros y safle yn dweud ei fod yn anhebygol bod unrhyw un wedi goroesi.
Poblogaidd gydag ymwelwyr
Mae Ynys Wen, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Whakaari, yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac mae cychod yn cludo teithwyr yno i weld y llosgfynydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor yn y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n ceisio cael “rhagor o wybodaeth” gan yr awdurdodau.
Roedd Jacinda Ardern wedi teithio i’r ardal heddiw a dywedodd: “Mae ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio.”
Roedd rhai o’r bobol gafodd eu heffeithio yn westeion ar long bleser Royal Caribbean International, Ovation of the Seas.
Dywedodd y cwmni bod nifer o’u gwesteion wedi bod yn ymweld â’r ynys heddiw ac y byddan nhw’n cynnig pob cymorth i’w gwesteion a’r awdurdodau lleol.