Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, wedi rhoi addewid i gynnal Cyllideb ar Chwefror 5 i roi terfyn ar lymder “unwaith ac am byth”.

Mae’n rhan o addewidion y Blaid Lafur ar drothwy’r etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).

Dywed y byddai’r Gyllideb yn achub y Gwasanaeth Iechyd, yn ail-adeiladu gwasanaethau cyhoeddus ac yn cyflwyno Cyflog Byw o £10 yr awr i weithwyr dros 16 oed.

Byddai hefyd yn diwygio’r Credyd Cynhwysol wrth i Lafur weithio ar gynllun amgen i’w ddisodli, ac yn cynnig codiad cyflog o 5% i holl weithwyr y sector cyhoeddus.

Byddai’r blaid hefyd yn sefydlu cronfa Waspi i fenywod sydd wedi colli arian yn sgil codi’r oed pensiwn, ac yn cyflwyno deddfwriaeth i ddileu ffioedd dysgu.

Bydd dŵr ac ynni hefyd yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus o fewn 100 diwrnod cynta’r llywodraeth Lafur, gyda byrddau’n cael eu sefydlu i’w rheoli.

Colli swyddi a diwydiannau

“Mae swyddi da a diwydiannau cyfan oedd unwaith yn destun balchder i’n gwlad wedi cael eu colli a’u disodli gan swyddi diflas, anniogel sy’n ecsbloetio ac yn talu’n wael neu sydd ddim, mewn rhai achosion, yn swyddi o gwbl,” meddai John McDonnell.

“Does dim syndod fod pobol wedi dadrithio o ran gwleidyddion a gwleidyddiaeth.

“Fel mae ein maniffesto’n egluro, gwyrdroi’r ddau beth hyn fydd ein prif flaenoriaeth mewn llywodraeth.”

Ymosodiadau ar Lafur

 Yn y cyfamser, mae John McDonnell wedi achub ar y cyfle i ymateb i ymosodiadau ar y Blaid Lafur.

“Fe fydd bob amser y rheiny ar y brig a fydd yn gwneud unrhyw beth i geisio ein hatal ni – ac rydyn ni wedi gweld hynny, lladd ar gymeriadau, celwyddau a thaflu baw sydd, dw i’n meddwl, wedi mynd i lefel newydd yng ngwleidyddiaeth Prydain.”

Mae’n dweud mai ofn colli rheolaeth mae’r rheiny sy’n ymosod ar y Blaid Lafur.

“Pan fyddan nhw’n ymosod arna’ i neu Jeremy, rydyn ni’n gwybod nad ydyn nhw’n ymwneud â ni,” meddai.

“Maen nhw’n ymwneud â chi, bobol ein gwlad ni.

“Mae rhai ohonyn nhw’n casáu pobol ein gwlad ni.

“A dyfynnu’r Prif Weinidog, maen nhw’n meddwl fod pobol sy’n gweithio’n feddwon ac yn droseddwyr ac maen nhw’n casáu’r syniad eu bod nhw, o bosib, yn breuddwydio am fywyd gwell.”