Mae plismones yn Heddlu West Mercia wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ymosod ar bêl-droediwr fu farw’n ddiweddarach.
Bu farw Dalian Atkinson, cyn-ymosodwr Clwb Pêl-droed Aston Villa, ar ôl iddo gael ei saethu â gwn Taser ym mis Awst 2016.
Plediodd y Cwnstabl Mary Ellen Bettley-Smith yn ddieuog yn Llys y Goron Birmingham.
Mae’r Cwnstabl Benjamin Monk yn wynebu cyhuddiad o lofruddio, ond dydy e ddim wedi cyflwyno ple hyd yn hyn.
Bydd yr achos llys yn dechrau ar Fedi 14 y flwyddyn nesaf, ac mae’r ddau wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad nesaf ar Fai 5.