Mae Richard Leonard, arweinydd Llafur yn yr Alban, yn dweud y byddai Jeremy Corbyn yn gwrthod cynnal ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban pe bai’n dod yn brif weinidog.
Daw ei neges mewn trafodaeth radio ar ôl i Nicola Sturgeon ddweud y bydd hi’n cyflwyno cais cyn diwedd y flwyddyn.
Serch hynny, mae’n dweud y byddai pleidleisio dros fwyafrif o aelodau seneddol sydd o blaid annibyniaeth yn golygu y byddai gan yr SNP fandad i alw am refferendwm arall.
“Mae e’n mynd i ymdrin â’r peth a dweud na,” meddai Richard Leonard.
“Does gan yr SNP ddim mandad ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth.
“Rydyn ni’n dweud ein bod ni’n gwrthwynebu creu gwladwriaeth Albanaidd ar wahân.
“Rydym yn gwrthwynebu annibyniaeth ac rydym felly’n gwrthwynebu cynnal ail refferendwm.
“Y rheswm am hynny yw ein bod ni’n credu y byddai’n ddinistriol yn economaidd.”
Etholiadau’r Alban
Ond mae Richard Leonard yn cyfaddef y gallai’r sefyllfa newid pe bai mwyafrif o seddi yn Holyrood yn cael eu hennill gan yr SNP yn yr etholiadau cenedlaethol nesaf.
O dan yr amgylchiadau hynny, mae Jeremy Corbyn eisoes wedi dweud na fyddai’n ceisio atal refferendwm.
“Pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol ddydd Iau, bydd y siawns fod y gefnogaeth i annibyniaeth yn parhau yn lleihau’n sylweddol,” meddai.
Mae’n dweud mai llymder y Ceidwadwyr oedd wedi arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth yn y lle cyntaf, ac y byddai Llafur yn datrys y broblem honno.