Mae ymddeoliad cynnar pennaeth gwasanaeth tân Llundain wedi cael ei groesawu gan berthnasau’r rheini fu farw yn nhŵr Grenfell.

Fe fydd Comisiynydd Brigâd Dân Llundain, Dany Cotton, 50 oed, yn gadael ei swydd ddiwedd y mis yng nghanol beirniadaeth o’r ffordd yr ymatebodd y gwasanaeth i’r tân.

Hi oedd y ferch gyntaf i gyflawni’r swydd.

Roedd adroddiad cyntaf Ymchwiliad Grenfell wedi dyfarnu nad oedd Brigâd Dân Llundain wedi paratoi digon ar gyfer mynd i’r afael â thanchwa o’r fath.

Wrth ddiolch i Dany Cotton, dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan, y byddai disgwyl i’w holynydd weithredu ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Ymchwiliad Tŵr Grenfell.

Fe fu farw 72 o bobl yn y trychineb ym mis Mehefin 2017.