Mae S4C wedi bod yn targedu gwylwyr iau a’u hannog i “gymryd diddordeb o’r newydd yn y sianel”.
Dyna mae ei Chyfarwyddwr Cynnwys Creadigol, Amanda Rees, wedi ei ddatgelu yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.
Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth eleni bu i ‘sesiynau gwylio cynnyrch S4C ar-lein’ gynyddu gan 1.9 miliwn i 46.9 miliwn – o gymharu â’r llynedd.
Ac yn ôl Amanda Rees mae’r sianel wedi bod yn “arallgyfeirio” eu cynnwys i bobol ifanc trwy osod mwyfwy o ddeunydd ar-lein.
“[Rydym wedi bod yn] addasu’r sianel er mwyn sicrhau ei bod hi yn gallu parhau ac arloesi i’r dyfodol,” meddai wrth Golwg.
“Pethe fel gwneud yn siŵr bod ein cynulleidfa iau ni yn cymryd diddordeb o’r newydd yn y sianel.
“Roedd yna gyfnod hir pryd roedd S4C efallai yn cael ei gweld fel sianel i bobol hŷn. Ac mae Hansh wedi bod yn rhan hollbwysig o’n darpariaeth ni yn adfywio’r berthynas yna gyda phobol ifanc.
“Wnaethon ni ailgyfeirio ein cynnwys i bobol ifanc, fwy neu lai, oddi ar y brif sgrin yn llwyr ac yn ddigidol [ar y We].”
“Prowd”
Mae Amanda Rees yn Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C ers 2016 ac mae’n dweud mai’r “flaenoriaeth” bryd hynny oedd sicrhau bod y sianel yn “parhau i blant ein plant” ac yn aros yn berthnasol.
Bellach mae ymwneud S4C gyda’r gynulleidfa rhwng 16 a 35 “wedi tyfu yn eithaf sylweddol”, meddai, ac mae’n dweud ei bod yn “reit browd” o’i gwaith hyd yma.