Mae annibyniaeth yn “mynd i helpu wrth wneud i Gymru ffynnu”, yn ôl un o gerddorion amlycaf y Sîn Roc Gymraeg.
Roedd Gwenno Saunders, cerddor sy’n creu miwsig electronig yn Gymraeg a Chernyweg, ymhlith llond llaw o bobol ar raglen State of the Union: How Wales could swing the election neithiwr.
Wrth siarad â’r newyddiadurwr Channel 4, Jon Snow, mi rannodd yr artist o Gaerdydd ei theimladau am Gymru annibynnol.
“Beth dw i’n ei weld yn rhwystredig am y drafodaeth yw pan mae pobol yn siarad am fod ar wahân [seperatism],” meddai. “Dyw e ddim am fod ar wahân.
“Rydym ni ar ynys. Dydyn ni’n methu â ffoi rhag ein gilydd.
“Mae am newid natur ein perthynas. Cael annibyniaeth – llais cydradd o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’n mynd i helpu wrth wneud i Gymru ffynnu.”
Dywedodd hefyd ei bod yn gweld llawer o “fynegiant o blaid annibyniaeth” ymhlith pobol ifanc, a bod annibyniaeth yn “gam nesaf naturiol” yn dilyn datganoli.
Omar Hamdi ac annibyniaeth
Un arall o’r rheiny a gafodd ei gyfweld ar y sioe oedd y darlledwr a chomedïwr o Gaerdydd, Omar Hamdi.
Yn fab i Eifftwyr, mi soniodd am sut mae agweddau at annibyniaeth wedi newid yn raddol.
“Mae pobol a fyddai wedi trin hynna fel breuddwyd gwrach lwyr yn y gorffennol, bellach wedi dechrau [dangos diddordeb],” meddai.
“Pan oeddwn i’n tyfu fyny doeddwn i ddim yn cydweld â ‘Chenedlaetholdeb Cymreig’ gyda phrif lythrennau.
“Os ydyn nhw’n teimlo fel hyn am bobol Seisnig, dychmygwch sut maen nhw’n teimlo am bobol Eifftaidd! Roedd hynny’n gwestiwn eithaf rhesymol!
“Wrth i bethau newid dw i wedi dechrau meddwl ‘nid syniad annelwig diddorol yw hyn, mae pethau’n gallu newid’.”