Mae dyn wedi’i gyhuddo o anfon llythyrau yn cynnwys bygythiadau i ladd dau Aelodau Seneddol.

Mae Rakeem Malik, 52, wedi’i gyhuddo hefyd o anfon cyfathrebiadauu maleisus at gyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, ym mis Medi 2018.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys y mis nesaf.

Mae Heddlu’r West Midlands yn cadarnhau iddyn nhw gyhuddo Rakeem Malik ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 4) mewn cysylltiad â bygythiadau a gafodd eu hanfon at Aelodau Sneeddol West Lancashire a Birmingham Yardley, Rosie Cooper a Jess Phillips, rhwng Mai 2019 a Tachwedd 2019.