Mae undeb myfyrwyr NUS yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddilyn esiampl llywodraethau Cymru a’r Alban drwy ymestyn y bleidlais i bobol 16 ac 17 oed yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r undeb yn dadlau bod pobol yn cael eu “gadael ar ôl” o’u cymharu â thrigolion y gwledydd datganoledig, sydd eisoes wedi gostwng yr oedran pleidleisio.

Daw’r alwad ar ‘Ddiwrnod Democratiaeth’ NUS, ac wythnos union cyn yr etholiad cyffredinol.

Maen nhw hefyd yn galw am ddiddymu’r angen i ddangos cerdyn adnabod cyn pleidleisio, ac am gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.

Y sefyllfa bresennol

Yng Nghymru, fe wnaeth y Cynulliad gytuno’r wythnos ddiwethaf i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

Maen nhw hefyd yn deddfu er mwyn gostwng yr oedran yn yr un modd ar gyfer etholiadau lleol.

Yn yr Alban, cafodd pobol 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio yn y refferendwm annibyniaeth yn 2014 ac yn etholiadau Holyrood a’r cynghorau lleol, ond nid yn etholiadau cyffredinol San Steffan.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn dangos bod 1.4m o bobol 18-25 ac 1.2m o bobol 25-34 oed wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.

Ond fydd oddeutu 1.5m o bobol 16 ac 17 oed ddim yn gallu pleidleisio.

‘Anfaddeuol’

“Tra ein bod ni wrth ein boddau o weld bod cynifer o bobol wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiad mwya’n bywydau, ac wrth ein boddau fod cannoedd o filoedd o fyfyrwyr a phobol ifanc yng Nghymru a’r Alban am elwa o’r camau pleidleisio positif sy’n cael eu cymryd yn y gwledydd hynny, mae’n anfaddeuol fod yr un grwpiau o bobol ifanc wedi’u cloi allan o hyd o etholiadau San Steffan, a bod pobol ifanc mewn rhannau eraill o’r wlad ar ei hôl hi o’u cymharu â’u ffrindiau a’u theuluoedd,” meddai Zamzam Ibrahim, Llywydd Cenedlaethol NUS.

“Mae Greta Thunberg, sy’n 16 oed, eisoes wedi dweud wrth y byd fod ‘pobol yn tanbrisio grym plant bach crac’ ac mae hi’n iawn.

“Rhaid i’r llywodraeth nesaf wrando, neu wynebu ynysu a rhwystro cenhedlaeth ymhellach.

“Os yw San Steffan wir eisiau i bobol ifanc ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ymgysylltu â democratiaeth seneddol, yna mae angen i wleidyddion yn Llundain wneud pleidleisio’n 16 oed yn norm newydd ar gyfer pob etholiad, a gwneud cofrestru pleidleiswyr mor awtomatig â derbyn eich rhif yswiriant gwladol.”