Mae grenâd wedi cael ei daflu at gar heddlu yng ngorllewin Belffast mewn beth sy’n cael ei ddisgrifio fel “ymdrech i ladd swyddogion”.

Digwyddodd yr ymosodiad ar Falls Road am 2 y bore ddydd Mercher (Rhagfyr 4).

Dywed Prif Uwch-arolygydd Jonathan Roberts fod y car ar batrôl arferol pan gafodd y grenâd ei daflu.

Chafodd neb ei anafu.

“Rydym yn ddiolchgar na chafodd yr un o’r swyddogion tu mewn i’r cerbyd eu hanafu ac na chafodd y car ei ddifrodi.

“Roedd hwn heb os yn ymdrech i ladd swyddogion.

“Mae’n rhaid i’r weithred ffiaidd yma gael ei gondemnio gan bawb”.