Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson am i ddefnydd banciau bwyd ddisgyn o dan ei arweinyddiaeth, os wnaiff y Toriaid ennill yr Etholiad Cyffredinol ar Ragfyr 12.
Mae o wedi diolch i’r sawl sydd yn helpu i redeg banciau bwyd, cyn ychwanegu nad yw’n iawn i unrhyw un orfod dibynnu arnyn nhw.
Dywed uy Trussell Trust, sy’n rheded rhwydwaith i fanciau bwyd yn y Deyrnas Unedig eu bod wedi profi’r chwe mis prysuraf erioed.
Ac bod mwy bobol nag erioed o’r blaen yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd, gyda 820,000 o barseli argyfwng wedi cael eu dosbarthu yn y chwe mis diwethaf.