Mae angen rhwydwaith o warchodfeydd cefnforol sydd wefi’u a diogelir rhag gweithgaredd ddynol, i helpu’r moroedd i storio carbon a chadw natur, meddai ymgyrchwyr.

Mae adroddiad gan Greenpeace yn tynnu sylw at rôl y cefnforoedd fel “sinc carbon” mwyaf y byd, gan storio llawer iawn o’r carbon deuocsid a roddir yn yr atmosffer gan weithgaredd dynol, yn ogystal â gwres wrth i’r blaned gynhesu. 

Ond mae’r ddibyniaeth barhaus ar losgi tanwydd ffosil a’r allyriadau carbon deuocsid y mae’n eu hachosi wedi arwain at wresogi cefnfor, codiadau yn lefel y môr a dŵr y môr yn fwyfwy asidig – gydag effeithiau cyflym a mawr ar bobl a bywyd gwyllt. 

Mae’r hinsawdd sy’n newid a cholli bywyd gwyllt a chynefinoedd morol yn bygwth y prosesau sy’n caniatáu i’r cefnforoedd storio carbon, mae’r adroddiad yn rhybuddio. 

Mae angen torri allyriadau yn sylweddol i ffrwyno newid yn yr hinsawdd, meddai Greenpeace.

“Mae’r argyfwng hinsawdd yn argyfwng cefnfor,” meddai Louisa Casson, ymgyrchydd cefnforoedd yn Greenpeace UK.

“Mae’r cefnfor yn sylfaenol i gadw ein planed yn iach, ond am gyfnod rhy hir rydym wedi trin amddiffyniad morol fel mater ar wahân i’r argyfwng hinsawdd.

“Rhaid i ni amddiffyn ein cefnfor, y sinc carbon mwyaf ar y ddaear, a rhoi’r gorau i losgi tanwydd ffosil.

“Mae angen gweithredu ar y cyd ar frys ar raddfa fyd-eang i amddiffyn o leiaf 30% o’n cefnfor yn iawn a diogelu ei storfeydd helaeth o garbon glas.”