Dyw Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ddim am ddiystyru cymryd cyfreithiol os yw Boris Johnson yn dychwelyd i Downing Street ac yn rhwystro ail refferendwm annibyniaeth.
Gwnaeth Nicola Sturgeon hi’n glir na fyddai hi’n cynnal pleidlais heb ei awdurdodi fel y digwyddodd yng Nghatalwnia.
Wrth siarad ar raglen BBC Brekfast, dywedodd Nicola Sturgeon fod llywodraeth fwyafrifol Geidwadol “ddim yn anochel” a bod angen i bwy bynnag fydd yn cipio Rhif 10 “barchu ewyllys pobol yr Alban”.
Ac os bydd Boris Johnson yn parhau fel Prif Weinidog ac yn gwrthod caniatáu ail refferendwm ar annibyniaeth, dywed Nicola Sturgeon y byddai’n “ei gwneud hi’n glir sut dwi’n bwriadu gweithredu bryd hynny”.
“Rydym mewn etholiad ar hyn o bryd,” meddai Nicola Sturgeon.
“Beth bynnag mae’r polau opiniwn yn eu hawgrymu, ac maen nhw’n edrych fel petai nhw’n agosáu ychydig, dyw mwyafrif Torïaidd ddim yn anochel”.