Mae Boris Johnson a Jeremy Corbyn wedi talu teyrnged i ddioddefwyr ymosodiad brawychol London Bridge mewn gwylnos yn Llundain y bore ma (dydd Llun, Rhagfyr 2).
Ymunodd Maer Llundain Sadiq Khan ac aelodau’r cyhoedd â’r ddau wleidydd a oedd yn sefyll ochr yn ochr, wrth nodi munud o dawelwch i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt Saskia Jones, 23, a Jack Merritt, 25, a gafodd eu trywanu gan Usman Khan, 28, ddydd Gwener, Tachwedd 29.
Galwodd y Maer ar i drigolion Llundain ddod ynghyd yn dilyn yr ymosodiad a chydweithio ar gyfer dyfodol “heb ei ddiffinio gan gasineb ond wedi’i ddiffinio gan obaith, undod a chariad”.
Daw’r gwasanaeth yn Guildhall Yard wrth i Heddlu Lloegr gyhoeddi bod dyn 34 oed wedi cael ei arestio yn Stoke-on-Trent ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol. Mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar ar amheuaeth o dorri amodau ei drwydded.
Dywed yr heddlu nad oes unrhyw awgrym ei fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad yn London Bridge.
Roedd Usman Khan ar drwydded ac yn gwisgo tag electroneg pan oedd wedi cynnal yr ymosodiad. Cafodd tri o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad.
Adolygiad brys
Mae’r ymosodiad wedi arwain at adolygiad brys gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o amodau trwydded pob un o’r rhai sydd wedi eu rhyddhau o’r carchar am droseddau brawychol.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson bod y ffigwr “tua 74” o bobol ac mae wedi rhoi addewid i gymryd camau i sicrhau nad yw troseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau difrifol yn cael eu rhyddhau’n gynnar.
Cafodd Usman Khan ei ryddhau ar drwydded ym mis Rhagfyr 2018, hanner ffordd drwy ei ddedfryd o 16 mlynedd.