Bydd pedwar llanc sydd wedi eu cyhuddo o gyflawni ymosodiad homoffobig ar fws yn mynd gerbron llys yn ddiweddarach.

Mae Melania Geymonat, 28, a’i chariad Chris yn honni iddyn nhw gael eu targedu ar lawr uchaf bws double-decker yn Llundain wedi iddyn nhw wrthod a chusanu.

Cafodd y pedwar bachgen – dau 17 oed, un 16 oed, ac un arall 15 oed – eu cyhuddo o gyflawni trosedd casineb gwaethygedig ym mis Gorffennaf.

Mae’r grŵp wedi cael eu cyhuddo o harasio’r menywod wrth iddyn nhw deithio o West Hampstead i Camden Town yn oriau man y bore, Mai 30.

Maen nhw wedi hefyd cael eu cyhuddo o ofyn i’r merched gusanu, ac o wneud ystumiau rhywiol.

Bu’n rhaid i’r menywod gael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn yr achos i drin ag anafiadau i’w hwynebau.

Cyhuddiadau eraill

Mae’r bechgyn 15 ac 16 blwydd oed yn wynebu cyhuddiadau o drin nwyddau sydd wedi’u dwyn.

Mae’r llanc 16 blwydd oed wedi ei gyhuddo o ddwyn, ac mae un o’r bechgyn 17 blwydd oed wedi gwadu cyhuddiad o feddu ar ganabis.

Bydd y pedwar llanc yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Highbury Corner, ac mi fydd yr achos llys yn para am ddeuddydd.