Mae’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr wedi bod yn rhan o ddadl ffyrnig dros honiadau y byddai’r Ceidwadwyr yn “fodlon gwerthu” y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) mewn cytundeb fasnach gyda’r Unol Daliaethau.

Cyflwynodd Jeremy Corbyn 451 tudalen o ddogfennau llywodraethol sydd, meddai, yn profi y byddai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ar y bwrdd” mewn trafodaethau â gweinyddiaeth Donald Trump.

“Mae gennym dystiolaeth fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar y bwrdd ac ar werth o dan arweiniant Boris Johnson,” meddai.

“Mae o wedi ceisio cuddio hyn mewn agenda cyfrinachol a heddiw mae wedi cael ei ddatgelu.”

Ond dywed y Ceidwadwyr fod arweinydd y Blaid Lafur yn dweud “celwydd noeth” a chymryd rhannau o ddogfennau allan o’u cyd-estyn.

Wrth ymgyrchu yng Nghernyw, disgrifiodd Boris Johnson honiadau’r Blaid Lafur fel “nonsens llwyr” gan fynnu: “Dyw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddim ar y bwrdd mewn unrhyw ffordd.”