Fydd Boris Johnson na Jeremy Corbyn ddim yn cymryd rhan yn y ddadl deledu rhwng arweinwyr pleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain ar y BBC.
Rishi Sunak, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, fydd yn cynrychioli’r Ceidwadwyr, tra bydd Rebecca Long-Bailey yno ar ran y Blaid Lafur.
Adam Price (Plaid Cymru), Jo Swinson (Democratiaid Rhyddfrydol), Nicola Sturgeon (SNP), Caroline Lucas (cyn-arweinydd y Blaid Werdd) a Richard Tice (cadeirydd Plaid Brexit) fydd yn cynrychioli’r pleidiau eraill.
Bydd y ddadl, a fydd yn cael ei llywio gan Nick Robinson, yn cael ei darlledu’n fyw o Gaerdydd am 7.30 nos Wener (Tachwedd 29).
Bydd pob arweinydd neu gynrychiolydd yn gwneud datganiad agoriadol cyn derbyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth. Bydd y cyfan yn dod i ben gyda datganiadau terfynol.
Fe gymerodd Boris Johnson a Jeremy Corbyn ran mewn dadl ben-ben ar ITV ac mewn pennod arbennig o Question Time ar y BBC yr wythnos ddiwethaf.