Mae’r darlledwr Gwyddelig, Muiris Mac Conghail, un o gadeiryddion cynta’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd, wedi marw’n 78 oed.
Roedd yn ddarlledwr a chynhyrchydd teledu a radio, gwneuthurwr dogfennau, awdur, newyddiadurwr a darlithydd.
Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn seiliedig ar ynysoedd Blasket yng ngorllewin Iwerddon.
Cafodd ei eni yn Nulyn ac fe raddiodd o brifysgol y ddinas cyn mynd i weithio i’r BBC ac yna RTE yn y 1960au.
Yn RTE, roedd yn gynhyrchydd a golygydd rhaglenni materion cyfoes, yn bennaeth rhaglenni nodwedd a materion cyfoes, yn bennaeth radio ac yn bennaeth rhaglenni RTE One.
Treuliodd gyfnod hefyd yn bennaeth ar yr orsaf radio Wyddeleg, Raidió na Gaeltachta, gan ennill nifer o wobrau.
Yn y 1970au, bu’n gweithio yn swyddfa’r Taoisech, gan sefydlu Gwasnaeth Gwybodaeth y Llywodraeth.
Yn fwyaf diweddar, bu’n darlithio ym maes newyddiaduraeth yn Sefydliad Technoleg Dulyn.
Ei fab yw Fiach Mac Conghail, cyn-bennaeth Abbey Theatre yn Nulyn.
Mae Muiris Mac Conghail yn gadael gwraig, Mary Malone, pump o blant, dau lysfab a brawd.