Mae corff wedi’i ganfod ar ffordd a gafodd ei heffeithio gan lifogydd diweddar yn ne Swydd Efrog.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau fod corff y dyn wedi’i gael ger Barnby Dun yn ardal Doncaster area, ddydd Sadwrn (Tachwedd 23).

Fe fu’r ffordd, rhwng Barnby Dun ac Arksey, dan ddwr am bythefnos wedi i afon Don orlifo ei glannau yn gynharach y mis hwn.

Mae swyddogion yn methu dweud am ba hyd y bu’r corff yno cyn iddyn nhw ddod ar ei draws.

Dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.