Mae’r chwilio’n parhau am beilot awyren sydd wedi ei cholli gerllaw Ynys Seiriol ym Môn.
Fe ddiflannodd yr awyren oddi ar sgriniau radar yn gynnar brynhawn ddoe lai na hanner awr ers iddi godi o Faes Awyr Caernarfon ar daith tua Phen y Gogarth ac yn ôl.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai dim ond un person oedd ar fwrdd yr awyren Cessna fechan.
Fe fu timau achub yn chwilio am olion o’r awyren tan yn hwyr neithiwr ac fe fyddan nhw’n ailddechrau y bore yma.
Roedd y chwilio’n cynnwys dau dîm gwylwyr y glannau, tri bad achub a hofrennydd achub o Faes Awyr Caernarfon.
Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n gwybod pwy yw’r peilot ac mae ei deulu wedi cael gwybod.