Fe ddylai Llywodraeth Cymru benodi comisiynydd i ofalu am ddioddefwyr, gan gynnwys dioddefwyr trais domestig.
Dyna un o’r galwadau mewn digwyddiad yn y Cynulliad i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn i wrthwynebu trais gan ddynion yn erbyn menywod.
Mae Comisiynydd o’r fath ar gael ar gyfer Lloegr a Chymru ond roedd yr alwad ddoe am swydd o’r fath yn benodol ar gyfer Cymru.
Roedd gwleidyddion ac ymgyrchwyr ymhlith y siaradwyr mewn cyfarfod ac wedyn gwylnos dan arweiniad yr AC tros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Joyce Watson.
Rachel Williams
Ymhlith y cyfranwyr yn y digwyddiad a drefnwyd gan WI Cymru, roedd Rachel Williams o Gasnewydd a ddioddefodd anafiadau difrifol ar ôl i’w chyn-ŵr ei saethu yn 2011.
Mae wedi sefydlu mudiad i wrthwynebu trais domestig a’r mis diwetha’ fe gyhoeddodd lun o gofnod angladd ei mab, Jack, a laddodd ei hun yn fuan wedi’r digwyddiad.
Mae hi’n pwysleisio bod angen tynnu sylw at ddioddefaint plant hefyd mewn achosion o’r fath.