Mae’r BBC yn cael eu cyhuddo unwaith eto o olygu fideo sy’n dangos Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn destun sbort.

Fe wnaeth aelod o’r gynulleidfa ar raglen ‘Question Time’ yr wythnos ddiwethaf ofyn iddo pa mor bwysig ydyw fod rhywun fel fe sydd mewn grym yn dweud y gwir.

Dywedodd Boris Johnson wrth ateb y cwestiwn ei fod yn “hanfodol”.

Chwerthin oedd ymateb y gynulleidfa cyn dechrau cymeradwyo’r holwr.

Ond wrth adrodd am y digwyddiad ar y newyddion, fe wnaeth y BBC dorri’r chwerthin allan o’r darllediad a dangos y gymeradwyaeth yn unig.

Sul y Cofio

Daw’r digwyddiad wythnosau’n unig ar ôl i’r Gorfforaeth gael eu beirniadu am olygu fideo o Boris Johnson yn gosod torch o flodau ar y gofeb ryfel yn Llundain ar Sul y Cofio.

Fe fu bron iddo ollwng y dorch cyn ei rhoi â’i phen i waered ar y gofeb.

Ond wrth roi sylw i’w ymddangosiad, fe ddefnyddiodd y BBC fideo o seremoni flaenorol.

“Camgymeriad technegol” oedd yn cael y bai am y digwyddiad hwnnw.