Mae cwmni sinemâu Vue wedi penderfynu na fydd yr un o’i leoliadau’n dangos y ffilm dreisgar ‘Blue Story’ eto yn dilyn anhrefn yn Birmingham.
Cafodd saith o blismyn eu hanafu mewn ffrwgwd y tu allan i sinema’r cwmni yn y ddinas.
Cawson nhw eu galw yn dilyn adroddiadau bod gan lanciau gyllyll.
Mae pump o bobol yn eu harddegau, gan gynnwys merch 13 oed, wedi cael eu harestio.
Y ffilm
Mae’r ffilm ‘Blue Story’ yn adrodd hanes brwydr rhwng gangiau yn ne Llundain.
Mae’r ffilm yn cynnwys iaith gref, trais, bygythiadau, rhyw a chyffuriau.
Mae llinellau ffôn y cwmni’n dweud na fydd y ffilm yn cael ei dangos yn unman eto, ac mae gwefan y cwmni’n cynnwys manylion y ffilm ond does dim modd prynu rhagor o docynnau.
Dywed y cwmni mai diogelwch cwsmeriaid yw eu blaenoriaeth, ac mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw wedi cynghori’r cwmni i dynnu’r ffilm.