Fe wnaeth ennill cadair olygu taith o 8,000 o filltiroedd o ddyffryn Conwy i ddyffryn Camwy i’r bardd buddugol yn ddiweddar.
Er bod Geraldine MacBurney Jones yn byw yn Llanrwst bellach, doedd ei hwyneb ddim yn ddieithr i’r gynulleidfa yn Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew. Roedd y ferch a ddaw’n wreiddiol o’r Gaiman wedi ennill coron yr Eisteddfod o’r blaen, yn ogystal â choron Eisteddfod Trefelin, ac wedi bod yn aelod o Orsedd y Wladfa ers 2011.
Fe fu hi hefyd yn helpu ei mam, Monica, i sefydlu’r ysgol feithrin Gymraeg gyntaf yn Nhrelew.
Mae hi’n fardd toreithiog yn y Sbaeneg yn y ogystal, sydd wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth: Vestal de luna, 2012, Cancion para un alma en vilo, 2018, a Garmon o esa vieja musica de nieve, 2019. Mae ei llyfr diwethaf yn darlunio’i bywyd fel mewnfudwr yng ngogledd Cymru, lle mae’n cyfeirio at amryw o ganeuon Cymraeg a digwyddiadau hanesyddol fel boddi Capel Celyn.
A hithau wedi ymgartrefu yn Llanrwst ers 2016 gyda’i chariad Eryl a’i chi o’r Gaiman, Pachi, fe fu’n rhaid iddi weithredu ar frys pan glywodd wythnos cyn yr Eisteddfod ei bod hi wedi ennill.
“Roedd yn anodd iawn cael tocyn awyren am bris o fewn ein cyrraedd gan ein bod angen mynd ar fyr rybudd,” meddai. “Fe fuon ni’n chwilio a chwilio gan anobeithio’n llwyr, ond llwyddo i gael tocyn yn y diwedd a oedd yn mynd â ni drwy’r Swistir.
“Roedd tocyn awyren o Buenos Aires i Trelew hefyd yn rhy ddrud, felly doedd dim dewis ond taith 19 awr ar fws.
“Roedd y profiad yn anhygoel er hynny, a’r croeso a ges i yn werth pob ymdrech a phob ceiniog o’r gost.”
Enillodd ei chadair am gyfres o gerddi ar y testun ‘Adeiladu’ a gafodd glod uchel gan y beirniad, yr Athro Tudur Hallam o Brifysgol Abertawe.