Bydd miliynau o bobol yn gwylio ffeinal cystadleuaeth y Junior Eurovision sy’n cael ei chynnal yng Ngwlad Pwyl b’nawn Sul.
Yno i gynrychioli Cymru fydd Erin Mai, y ferch 14 oed o Lanrwst ddaeth i’r brig ar raglen Chwilio am Seren Eurovision ar S4C.
Mi fydd y Gymraes yn cystadlu yn erbyn 18 o wledydd eraill ac mae fideo ohoni yn perfformio ei chân ‘Calon yn Curo’ wedi ei wylio dros 100,000 o weithiau ar YouTube.
Erbyn hyn, mae perfformiad Erin Mai o’r gan ‘Calon yn Curo’ wedi cael ei wylio dros 100 mil o weithiau ar YouTube.
“Can mil? Dw i yn methu credu’r bod gymaint â hynny wedi fy ngwylio fi yn perfformio,” meddai Erin Mai.
“Gobeithio gwneith y can mil hynny bleidleisio dros Gymru ar benwythnos y gystadleuaeth!”
Geiriau Mr Phormula
Mae ‘Calon yn Curo’ wedi ei chyfansoddi gan gyn-berfformwyr cystadleuaeth yr Eurovision, sef Sylvia Strand a John Gregory, sy’n byw yng Nghwm Rhondda Fawr.
Y rapiwr a’r cyfansoddwr Ed Holden – neu Mr Phormula, a rhoi ei enw rapio iddo – sydd wedi llunio’r geiriau.
Junior Eurovision ar S4C b’nawn Sul am dri.
Gwyliwch y fideo swyddogol o Erin Mai yn perfformio ‘Calon yn Curo’…