Dywed arweinwyr yr SNP eu bod nhw’n disgwyl y byddai Jeremy Corbyn yn caniatáu pleidlais ar annibyniaeth i’r Alban fel pris am eu cefnogaeth mewn senedd grog.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith i arweinydd Llafur ddweud yn nadl deledu’r BBC neithiwr y byddai’n gwrthwynebu pleidlais o’r fath yn ystod dwy flynedd gyntaf llywodraeth Lafur.
Awgrymodd prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn yr un ddadl y byddai Jeremy Corbyn yn barod i ildio pe bai rhaid iddo.
“Ydych chi’n meddwl ei fod am golli’r cyfle i ddod â llymder i ben, amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd, rhoi’r gorau i gredyd cynhwysol, dim ond am fod arno eisiau, am ddwy flynedd, rhwystro’r Alban rhag yr hawl i benderfynu ar ei thynged,” gofynnodd i’r gynulleidfa.
“Mae Jeremy Corbyn yn cefnogi’r hawl i hunan-lywodraeth i bron bob gwlad arall yn y byd. Dw i ddim yn siwr ei fod am beryglu’r siawns o gael llywodraeth Lafur ar y mater yma.”
Ian Blackford
Yr un oedd neges arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford, ar raglen Radio 4, Today y bore yma.
“Fydden ni ddim yn ystyried mynd i glymblaid gyda Llafur, ond rydym yn hapus i ystyried pethau ar sail achosion unigol,” meddai.
“Os oes ar Jeremy Corbyn eisiau bod yn brif weinidog ar lywodraeth leiafrifol yna bydd yn rhaid iddo gyfaddawdu – a dyw ildio i hawl ddemocrataidd yr Alban am refferendwm yn gofyn llawer mewn wirionedd.
“Dw i’n meddwl ei bod yn beth rhesymol i’w wneud, mae’n fandad y gwnaethon ni ei ennill yn 2016 – dw i ddim yn meddwl y bydd yn gweld hyn yn beth anodd i’w wneud.”