Mae pobl ynysoedd Bougainville yn y Môr Tawel yn pleidleisio mewn refferendwm hanesyddol i benderfynu a fyddan nhw’n torri’n rhydd oddi wrth Papua Guinea Newydd i ffurfio gwlad annibynnol.

Mae’r bleidlais yn rhan allweddol o gytundeb heddwch yn 2001 a ddaeth â rhyfel cartref i ben ar yr ynysoedd ar ôl i dros 15,000 o bobl gael eu lladd.

Mae disgwyl i fwyafrif llethol y 250,000 o bobl sy’n byw yn Bougainville bleidleisio dros annibyniaeth yn hytrach na’r dewis arall o fwy o ymreolaeth.

Nid y bleidlais fydd y gair olaf fodd gynnag, gan y bydd angen i’r cytundeb terfynol gael ei drafod rhwng arweinwyr Bougainville a senedd Papua Guinea Newydd.

Oherwydd anawsterau teithio ar yr ynysoedd ym moroedd garw’r tymor gwlyb, fe fydd y pleidleisio’n digwydd dros gyfnod o bythefnos, ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ganol y mis nesaf.