Bydd “colled enfawr” ar ôl yr actor fu yn portreadu ‘Tony Archer’ yn The Archers am dros 40 o flynyddoedd.
Bu farw Colin Skipp yn 80 oed a rhwng 1967 a 2013 roedd yn ganolog i rai o straeon mwyaf poblogaidd yr opera sebon sydd i’w chlywed ar Radio 4 y BBC.
Mae tua pum miliwn o bobol yn gwrando ar The Archers pob wythnos.
“Colin wnaeth greu ‘Tony’”
“Roedd gan Colin lais gwych oedd yn gwneud ‘Tony’ yn unigryw ac adnabyddus. Colin wnaeth greu ‘Tony’,” meddai Jeremy Howe, golygydd The Archers.
Bu yn rhaid i Colin Skipp roi’r gorau i bortreadu ‘Tony Archer’ yn 2013 yn dilyn sawl trawiad ar y galon, a daeth yr actor David Troughton i lenwi ei esgidiau.