Gyda’i fwyafrif yn fach, mae Hywel Williams wedi cydnabod wrth gylchgrawn Golwg bod yna le i boeni a fydd Plaid Cymru yn dal ei gafael yn etholaeth Arfon.
Ond mae’r dyn sy’n cynrychioli’r ardal yn San Steffan ers 2001 yn dweud bod y Blaid “yn paratoi am etholiad ers dechrau’r flwyddyn, mae ganddo ni griwiau mawr yn mynd allan [i ganfasio]… rydan ni’n gwneud bob dim fedran ni yma.
“A dw i’n llawn obeithio y gwnawn ni ennill. Ond tydan ni ddim yn cymryd dim byd yn ganiataol.”
Yn 2017 fe ddaeth y Blaid Lafur o fewn 92 o bleidleisiau i gipio Arfon, ardal sydd wedi dewis Aelod Seneddol Plaid Cymru ers 1974.
Merch tŷ cyngor
Mae profiadau plentyndod Steffie Williams Roberts yn ganolog i’w phenderfyniad i sefyll tros y Blaid Lafur yn Arfon.
Fe gafodd ei magu ar stad dai cyngor enfawr Maesgeirchen ar gyrion dinas Bangor, ac elwa o fynd i glybiau ieuenctid, dawnsio, drama, coginio, garddio ac ati yn y ganolfan gymunedol leol.
Ond mae hi’n dweud fod yr hyn sydd ar gael i’r ifanc wedi crebachu yn arw erbyn hyn, oherwydd polisi llymder y Ceidwadwyr.
Bellach yn 27 oed ac yn magu mab bach gyda’i gwraig Eirian, mae gan yr ymgeisydd Llafur radd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith.
Ei gwaith yw bod yn eiriolwr ar ran rhieni plant sydd ag anghenion dysgu arbennig.
Mae hi’n “anghytuno yn llwyr” fod Plaid Cymru yn Sosialaidd ac yn ymosod ar record y cyngor sir lleol.
“Mae Cyngor Plaid Cymru Gwynedd wedi cau’r clybiau ieuenctid o gwmpas y lle yma… a tydyn nhw ddim yn caniatáu adeiladu tai achos bo nhw yn rhy brysur yn gwarchod yr iaith Gymraeg.
“Maen nhw yn blocio ceisiadau cynllunio left, right and centre ym Mangor – oherwydd yr iaith – pan mae yna definate need am dai yma.”
Mwy am y frwydr yn Arfon yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg