Mae WikiLeaks wedi croesawu penderfyniad yr awdurdodau yn Sweden i ollwng ymchwiliad i Julian Assange.
Roedd sylfaenydd WikiLeaks wedi bod yn wynebu honiadau yn ymwneud a threisio ond roedd wedi gwadu’r cyhuddiadau.
Cyhoeddodd erlynwyr yn Sweden heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 19) bod yr achos yn ei erbyn wedi cael ei ollwng gan fod y dystiolaeth wedi “gwanhau’n sylweddol” oherwydd y cyfnod hir oedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau honedig.
Mae Julian Assange yng ngharchar Belmarsh yn Llundain wrth iddo aros am gais i’w estraddodi i’r Unol Daleithiau.
Cafodd ei symud o lysgenhadaeth Ecuador yn Llundain ym mis Ebrill lle’r oedd wedi bod yn cael lloches.