Mae dirwyon o fwy na £2m wedi cael eu rhoi bob blwyddyn i bobol sy’n defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru, yn ôl ymchwil newydd.

Drwy ddadansoddi ffigyrau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae’r cwmni yswiriant Direct Line wedi darganfod bod mwy na 13,000 o fodurwyr wedi cael eu cosbi am droseddau yn ymwneud a ffonau symudol bob blwyddyn.

Awgrymodd arolwg o 2,002 o bobl fod yr arfer yn gyffredin iawn, gyda 29% o’r rhai gafodd eu holi yn cyfaddef iddyn nhw ddefnyddio eu ffon symudol wrth y llyw yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn 2018, roedd 683 o ddamweiniau – yn cynnwys 29 marwolaeth a 118 anaf difrifol – yn ymwneud a gyrwyr yn defnyddio eu ffonau symudol.