Mae’r nifer o gosbau ysgafn sy’n cael eu dyfarnu yng Nghymru a Lloegr wedi disgyn i’w lefel isaf ers i gofnodion ddechrau.

Ymhlith y cosbau sydd dan sylw mae rhybuddion, hysbysiadau cosb a datrysiadau cymunedol, ac mae’r nifer o’r rhain sydd wedi’u rhoi yn sgil tor-cyfraith wedi cwympo gan 2%.

Mae’r nifer o droseddwyr sydd yn derbyn dedfrydau carchar yn syth (75,800) wedi cwympo i’w lefel isaf ers 2009 – cwymp o 6.5% mewn degawd.

Yn ôl data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gwnaeth y sustem gyfiawnder ymdrin â  1.58 miliwn o bobol rhwng Gorffennaf 2018 a Mehefin 2019.

Ym Mehefin 2009, ar gyfartaledd roedd dedfryd carchar yn 13.5 mis o hyd. Bellach mae’r ffigur wedi codi i 17.4 mis.